Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 12 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:15 - 11:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James William Powell David Rees Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Day, Lead Petitioner, P-04-024 Say No to TAN 8 – Windfarms and high voltage power lines spoiling our community Huw Morgan, Montgomeryshire Against Pylons John Morgan, Cambrian Mountains Society Peter Ogden, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Neville Thomas CF, Shropshire and Mid Wales Alliance |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) Nia Seaton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Ethol Cadeirydd Dros Dro o dan Reol Sefydlog 17.22
1.1 Etholodd y Pwyllgor Vaughan Gething fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a’r cyfarfod yn y prynhawn.
2. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo.
3. Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth ar TAN 8
3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2011, y llythyron a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd a’r wybodaeth ysgrifenedig ychwanegol a gafwyd i’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6.
6. Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin - adroddiad drafft y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyron drafft gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin i Lywodraeth Cymru a chytuno i’r rapporteur ar gyfer Senedd Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau.
7. Ymchwiliad i’r achos busnes ar gyfer yr un corff amgylcheddol - cytuno ar y cylch gorchwyl a phenodi cynghorwyr arbenigol
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad i’r achos busnes ar gyfer yr un corff amgylcheddol.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i benodi yr Athro Terry Marsden a’r Athro Robert Lee fel cynghorwyr arbenigol i gynorthwyo â’r ymchwiliad. Wrth wneud hynny, nododd Antoinette Sandbach y byddai’n well ganddi petai’r Pwyllgor yn gallu dewis o ystod ehangach o ymgeiswyr.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.